Y Ffarm Ddigidol 
yn ôl

'Y Ffarm Ddigidol' yw'r unig fasdata rheolaeth ffarm dwyieithog wedi ei gynllunio yn arbennig ar gyfer ffermwyr yng Nghymru.

Scroliwch i lawr, a cliciwch ar y lluniau i weld tudalen fwy
( cliciwch '
Back' i ddod yn ôl i hon )

wpe42.gif (14860 bytes)

Mae'r rhaglen yn cofnodi gwybodaeth sylfaenol am y ffarm.

wpe44.gif (31898 bytes)

Mae'n cofnodi manylion am un busnes, er engraifft cyfanswm IACS,
 cyfanswm defaid ( masnachol a pedigri ), cyfanswm gwartheg ( bîff a godro), 
ac mae'n rhoi rhybudd bod yna wartheg yn yr oed i wneud cais am daliad BSPS.

wpe48.gif (27277 bytes)

Gallwch gofnodi mwy nag un ffarm

wpe4A.gif (26976 bytes)

Manylion IACS am bob cae  ( gall rhain gael eu printio allan fel 'Field Data Sheet' )

wpe4D.gif (33197 bytes)

Manylion unrhyw gytundeb Tir Gofal, ESA, Tenantiaeth, Trwydded Bori dros bob cae.


wpe4F.gif (30901 bytes)

Diadelloedd a Grwpiau o ddefaid masnachol, yn cynnwys cyfanswm ar y ffarm, a manylion am unrhyw symudiad neu driniaeth sydd wedi ei wneud i'r defaid.


wpe51.gif (32801 bytes)

Manylion am ddefaid pedigri ( neu unrhyw ddafad gyda tag unigol ) yn cynnwys 
Pwyntiau Brîd a Choeden Deulu, Gwaith wedi ei wneud i bob un,  Pob Oen wedi ei eni i'r ddafad
Llun a chanlyniadau Sioeau,  Statws Scrapie y Ddafad, ac yn y blaen.

wpe53.gif (33743 bytes)

Manylion pob Buwch, Tarw, neu warthegyn arall ar y ffarm, yn cynnwys Pwyntiau Brîd a Choeden Deulu, Symudiadau a Thriniaethau  i bob un,  Rhestr o loeau pob Buwch,  Cyfanswm lloeau bob Tarw, ac yn y blaen.


wpe55.gif (37657 bytes)

DYDDIADUR i gofnodi pob Symudiad, pob Triniaeth, ac unrhyw gofnodion cyffredinol am bob Gwarthegyn, pob Dafad unigol, pob grwp o ddefaid Masnachol.  Hefyd mae Dyddiadur Caeau i gofnodi gwaith wedi ei wneud i bob cae.


ADRODDIADAU

wpe58.gif (20155 bytes)

Mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o adroddiadau, yn cynnwys Rhestr o Symudiadau, Rhestr o Driniaethau, Allbrint Data Caeau, ac yn y blaen.

er engraifft :-

Symudiadau Gwartheg  ( gellir printio rhain allan fesul wythnos/mis )

wpe5A.gif (40441 bytes)

neu mae yna Gofrestrau Buches, a Cyfanswm y Fuches ar unrhyw ddiwrnod

wpe5C.gif (24701 bytes)

ond yr un mae pawb eisiau ei weld yw'r  ' Ecstensifficêshon ' ( Beef Extensification Scheme )

Mae'r rhaglen yn dangos rhestr o wartheg ar y ffarm ar unrhyw ddiwrnod :-

wpe5E.gif (40066 bytes)

Neu cyfanswm ( LU ) yr anifeiliaid ar yr IACS, wedi ei rannu gyda Arwynebedd Porthiant (Forage Area) y ffarm i ddangos y DWYSEDD STOCIO ar unrhyw ddiwrnod.

wpe60.gif (22425 bytes)

Cadw'r darn gorau tan y diwedd !!

Os ydych eisiau mwy o fanylion,  eisiau gweld y rhaglen,  neu eisiau llwytho DEMO DISC ar eich cyfrifiadur chi - gyrrwch ebost i :-     basdata@ffarmddigidol.com  

neu ffoniwch  Cwmni Cefn Gwlad  ar Caernarfon ( 01286 ) 675136

Gallwch ddod i'r Swyddfa  ( Llys Amaeth, 2 Stryd y Castell, Caernarfon ) i weld y rhaglen, neu i gael 'go' arni ar ein cyfrifiadur ni, gyda rhywun i roi help llaw i chi os oes angen.

Byddwn yn trefnu nosweithiau hyfforddiant, ac yn rhoi hyfforddiant yn y ty i unrhyw un sy'n prynu y rhaglen.  Gyda lwc fe fydd yna grantiau ar gael cyn bo hir i helpu gyda côst y hyfforddiant.

o.n. ( just i mi anghofio )   Pris y rhaglen Bîff a Defaid yw  £300   ( + £30 Defaid Pedigri  + £30 Gwartheg Godro )


  Yn ôl