|
Mae gwaith Cwmni Cefn Gwlad
yn cyfuno Rheolaeth Tir
gyda Rheolaeth Gwybodaeth.
Mae cymaint o reolau a chyfreithiau yn ymwneud â
thir y dyddiau hyn, bod rheolaeth gwybodaeth wedi dod yn
rhan bwysig o reolaeth tir i bawb.
Rhaid i ffarmwr gofnodi pob symudiad
anifeiliaid, a phob triniaeth, yn ogystal a gweithio
allan dwysedd stocio'r ffarm bron yn ddyddiol.
Drwy wella rheolaeth gwybodaeth
y busnes gellir rhyddhau amser i wneud gwaith bob dydd.
Gall Cwmni Cefn Gwlad eich helpu i ddewis
cyfrifiadur,
i ddysgu
am feddalwedd, i fynd ar y wê, ac i reoli eich gwybodaeth chi yn well.
|